About Us

Amdanom Ni

Mae Ecebs (yr ynganiad yw 'i-sebs') yn gwmni meddalwedd cardiau call arbenigol sydd wedi ei leoli yn East Kilbride, yr Alban. Cawsom ein sefydlu yn 2000, ac ers hynny rydym wedi darparu technoleg cardiau call ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau. Rydym yn darparu'r feddalwedd sy'n gweithredu sglodyn y cerdyn call, yn ogystal â'r feddalwedd ar derfynellau a'r rhyngwynebau â systemau cyfrifiadurol eraill.

Mae Ecebs yn is-gwmni sy'n eiddo cyflawn i gwmni Trainline Investments Holdings Limted, www.thetrainline.com.

Rydym yn gwmni technoleg ddatblygedig, ac enw ein technoleg graidd unigryw yw Multefile. Y mae'n rhoi i chi'r gallu i ddatblygu systemau cyflawn, yr holl ffordd o'r cysyniad gwreiddiol i'w weithrediad.

Mae technoleg Multefile™ Ecebs, sy'n torri tir newydd, yn ei gwneud yn bosibl defnyddio cymwysiadau cerdyn call yn gyflym iawn. Mae'r hwb sy'n cael ei greu ar ddechrau rhaglen yn cael ei gynnal, felly, ac mae modd ennill manteision sylweddol oherwydd mai chi sy'n cymryd yr amser ymarferol byrraf i gyrraedd y farchnad.

Yn fwy na hyn, mae'r dechnoleg yn eich caniatáu i ddiweddaru'ch cymwysiadau a'ch paramedrau diogeledd yn ddeinamig allan yn y maes. Mae hyn yn golygu bod modd newid cardiau call wedi iddynt gael eu dyroddi, ac mae hynny'n ei gwneud yn bosibl cynnal y defnyddioldeb mwyaf posibl, a datblygu marchnadoedd arbenigol. Drwy hyn, mae cost bod yn berchen ar drefn cardiau call sy'n defnyddio'r system Multefile yn is o lawer na chost defnyddio dulliau confensiynol.

Mae cwsmeriaid a phartneriaid Ecebs yn amrywio o sefydliadau mawrion o'r radd flaenaf, a'r llywodraeth, i sefydliadau arbenigol.

 


We're here to help

Easy ways to get the answers you need.

Ask a Question

Contact Us


Related Articles

Downloads

Featured Customer