top
Ecebs
date + search
 Home
 About Us
 Management Team
 Agents
 Products & Solutions
 Services
 Documents
 News
 Contact
Amdanom Ni

Mae Ecebs (yr ynganiad yw 'i-sebs') yn gwmni meddalwedd cardiau call arbenigol sydd wedi ei leoli yn East Kilbride, yr Alban. Cawsom ein sefydlu yn 2000, ac ers hynny rydym wedi darparu technoleg cardiau call ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau. Rydym yn darparu'r feddalwedd sy'n gweithredu sglodyn y cerdyn call, yn ogystal â'r feddalwedd ar derfynellau a'r rhyngwynebau â systemau cyfrifiadurol eraill.

Mae Ecebs yn is-gwmni sy'n eiddo cyflawn i gwmni Trainline Investments Holdings Limted, www.thetrainline.com.

Rydym yn gwmni technoleg ddatblygedig, ac enw ein technoleg graidd unigryw yw Multefile. Y mae'n rhoi i chi'r gallu i ddatblygu systemau cyflawn, yr holl ffordd o'r cysyniad gwreiddiol i'w weithrediad.

Mae technoleg Multefile Ecebs, sy'n torri tir newydd, yn ei gwneud yn bosibl defnyddio cymwysiadau cerdyn call yn gyflym iawn. Mae'r hwb sy'n cael ei greu ar ddechrau rhaglen yn cael ei gynnal, felly, ac mae modd ennill manteision sylweddol oherwydd mai chi sy'n cymryd yr amser ymarferol byrraf i gyrraedd y farchnad.

Yn fwy na hyn, mae'r dechnoleg yn eich caniatáu i ddiweddaru'ch cymwysiadau a'ch paramedrau diogeledd yn ddeinamig allan yn y maes. Mae hyn yn golygu bod modd newid cardiau call wedi iddynt gael eu dyroddi, ac mae hynny’n ei gwneud yn bosibl cynnal y defnyddioldeb mwyaf posibl, a datblygu marchnadoedd arbenigol. Drwy hyn, mae cost bod yn berchen ar drefn cardiau call sy'n defnyddio'r system Multefile yn is o lawer na chost defnyddio dulliau confensiynol.

Mae cwsmeriaid a phartneriaid Ecebs yn amrywio o sefydliadau mawrion o'r radd flaenaf, a'r llywodraeth, i sefydliadau arbenigol.

 Related Links


 Smartcards
textlinks + search
copyright