Beth wy Multefile™

Mae Multefile™ yn gam mawr ymlaen yn y broses o symleiddio a defnyddio cardiau call. Y mae'n caniatáu i unrhyw fusnes ddyfeisio'i gynhyrchion cerdyn call ei hun, eu rhoi ar waith, a'u rheoli.
Multefile™ yw'r feddalwedd sy'n gwneud i'r sglodion mewn cardiau call weithio gyda'r feddalwedd ar y terfynellau y mae'r cardiau call yn eu defnyddio.Mae Multefile yn galluogi dyroddwyr cardiau i ddylunio, gweithredu a newid un neu ragor o gymwysiadau eu hunain. Y mae'n caniatáu i gardiau gael eu diweddaru a'u cywiro, mewn modd syml ac effeithlon, ar ôl iddynt gael eu dyroddi. Mae'n rhoi diwedd ar yr angen i dynnu cardiau call o gylchrediad a'u hail-ddyroddi os oes angen gwneud newidiadau; ac nid yw'n gyfyngedig i unrhyw fath arbennig o gymhwysiad cerdyn call nac i unrhyw gyfuniad o gymwysiadau o'r fath.
Drwy awtomeiddio'r broses o drosi gofynion ymarferol yn god rhedeg - ar gyfer y cerdyn a'r terfynellau ar yr un pryd - mae Multefile™ bron â gwneud i ffwrdd â'r broses faith a llafurus o ddatblygu technegol.
Gall perchnogion busnes greu a chynnal eu cymwysiadau cerdyn call eu hunain, a chymwysiadau sy'n gysylltiedig â cherdyn call, mor rhwydd â llunio taenlen. Mae hynny'n gostwng costau datblygu a chostau cynnal a chadw parhaus yn sylfaenol.
Mae Multefile™ yn ei gwneud yn bosibl datblygu cymwysiadau'n gyflym drwy ategu ystod helaeth o'r nodweddion a'r swyddogaethau sy'n arfer bod yn ofynnol gan amrywiaeth eang o gymwysiadau, o'r symlaf i'r mwyaf cymhleth - o Gludiant i Daliadau, o Gardiau Adnabod i Gardiau Iechyd, neu unrhyw gyfuniad ohonynt.
Beth am weld drosoch eich hun pa mor effeithiol yw Multefile™? Rydym bellach yn gallu darparu pecynnau arfarnu Multefile™. Cysylltwch ag enquiries@ecebs.com
