|
|
 |

 |
Mae ITSO (y Sefydliad Cardiau Call Cludiant Integredig) yn fenter
strategol sy'n cael ei chefnogi gan brif sefydliadau cludiant bysiau
a rheilffordd y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth y DG er mwyn darparu
system cardiau call digyffwrdd rhyngweithredadwy ar gyfer cyhoeddi
a gwirio tocynnau. Mae rhagor o wybodaeth ynglyn ag ITSO ar gael yn
yr erthygl 'ITSO — An Introduction', sydd ar gael yn ein hadran
pamffledi neu drwy ymweld â
www.itso.org.uk
Mae gan Ecebs ymrwymiad i hyrwyddo ITSO, ac maent yn cynnig amrywiaeth
o gynhyrchion a gwasanaethau..
ISAM
Yr elfen bwysicaf yw'r Modiwl Cymhwysiad Diogeledd ITSO (ISAM), sydd
ar gael bellach mewn fersiynau 3 folt a 5 folt. Mae'r ISAM wedi ei
leoli yn y dyfeisiau cyhoeddi a gwirio tocynnau, ac mae'n darparu'r
modd i ddarllen a gwirio cardiau call digyffwrdd sydd wedi eu cyhoeddi
gan amrywiaeth o weithredwyr cludiant. Mae manyleb lawn yr ISAM ar
gael drwy ein hadran dogfennau, ac mae
modd darllen gwahanol erthyglau fel cefndir yn ein hadran Archif
Newyddion.
I archebu ISAM'au, cysylltwch ag enquiries@ecebs.com
ISMS
Cafodd ISMS (System Rheoli Diogeliad ITSO) ei chynllunio a'i hadeiladu
gan Ecebs. Mae cwmni Royal Bank of Scotland, ar ran cwmni ITSO Limited,
yn gweithredu ISMS mewn amgylchedd tra diogel a gwydn. Pwrpas ISMS
yw darparu'r allweddau cryptograffig angenrheidiol a'r diogeliad angenrheidiol
ar gyfer holl elfennau amgylchedd ITSO. Mae hyn yn galluogi i Aelodau
trwyddedig o ITSO fod yn hyderus ynglyn â chywirdeb cyffredinol
y cynlluniau sydd ganddynt sydd â chydyffurfiad ITSO.
 |
AMS/HOPS
Fel y cwmni a gynlluniodd yr ISAM ac ISMS, mae Ecebs mewn sefyllfa
unigryw i ddarparu’r systemau ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer
cwblhau amgylchedd ITSO. Y mae gofyn i'r System Rheoli Asedau / System
Brosesu'r Gweithredwr Lletyol (AMS / HOPS) reoli'r ISAM'au sydd wedi
eu gosod yn yr offer terfynell man gwasanaeth (POST), yn ogystal â
darparu'r llifoedd data ar gyfer integreiddio'ch cynllun ITSO.
Mae'r Royal Bank of Scotland wedi defnyddio ein sgiliau unigryw er
mwyn cyrraedd sawl carreg filltir bwysig gyda'u AMS / HOPS. Hon oedd
yr AMS gyntaf i gael ei hachredu gan ITSO, a'r AMS gyntaf i gomisiynu
ISAM'au 'byw' (rhywbeth sydd bellach yn cael ei wneud mewn niferoedd
mawrion fel mater o drefn); ac mae'r ISAM'au hyn wedi ei gwneud yn
bosibl cynhyrchu cannoedd o filoedd o gardiau ITSO.
Hyfforddiant ITSO
Mae Ecebs yn rhedeg rhaglenni hyfforddiant undydd ar gyfer datblygwyr
sy'n dymuno gwybod mwy ynglyn â sut i fanteisio ar dechnoleg
safon agored ITSO. Mae'r cwrs, 'Implementing ITSO — A Technical
Introduction', yn cael ei rhedeg yn rheolaidd yn ein swyddfeydd yn
East Kilbride; neu, trwy drefniant arbennig, gellir ei chynnal mewn
man cyfarfod cydgyfleus. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y cwrs
hwn, neu os hoffech i gwrs penodol gael ei gynllunio i ddiwallu'ch
anghenion chi, cysylltwch ag enquiries@ecebs.com
Y tu hwnt i'r amgylchedd ITSO, mae Ecebs yn gallu darparu dyfeisiau
a systemau cyhoeddi a gwirio tocynnau at holl ofynion byd cludiant.
Mae hyn yn cynnwys meddalwedd sy'n cefnogi cardiau adlwythadwy cymhwysiad-sengl,
cardiau aml-gymhwysiad llawn, a chardiau rhyngwyneb deuol, ar ffurfiau
cyffwrdd a digyffwrdd. Yn ychwanegol at hynny, rydym yn gallu darparu
meddalwedd terfynell a systemau rheoli gyda'n technoleg Multefile.
Buasem yn hapus i drafod unrhyw ofynion sydd gennych. Mae gwybodaeth
bellach ar gael yma, ond buasem yn falch
o helpu gydag unrhyw ofynion ynglyn â chardiau call.
|
 |
 |
|