top
Ecebs
date + search
 Home
 About Us
 Products & Solutions
 Payment Cards and  EMV
   ATL
   AMS/HOPS
   E Passport
 Multefile
 Transport Ticketing /  ITSO
 Public Sector
 High Capacity Cards
 Operating Systems
 Other Products
 What is a Smartcard?
 Smartcard Starter Kit
 Smartcard Benefits
 Services
 Documents
 News
 Contact
Multefile






Mae Multefile yn gam mawr ymlaen yn y broses o symleiddio a defnyddio cardiau call. Y mae’n caniatáu i unrhyw fusnes ddyfeisio'i gynhyrchion cerdyn call ei hun, eu rhoi ar waith, a'u rheoli.

Multefile yw'r feddalwedd sy'n gwneud i'r sglodion mewn cardiau call weithio gyda'r feddalwedd ar y terfynellau y mae'r cardiau call yn eu defnyddio.Mae Multefile yn galluogi dyroddwyr cardiau i ddylunio, gweithredu a newid un neu ragor o gymwysiadau eu hunain. Y mae'n caniatáu i gardiau gael eu diweddaru a'u cywiro, mewn modd syml ac effeithlon, ar ôl iddynt gael eu dyroddi. Mae'n rhoi diwedd ar yr angen i dynnu cardiau call o gylchrediad a'u hail-ddyroddi os oes angen gwneud newidiadau; ac nid yw'n gyfyngedig i unrhyw fath arbennig o gymhwysiad cerdyn call nac i unrhyw gyfuniad o gymwysiadau o’r fath.

Drwy awtomeiddio'r broses o drosi gofynion ymarferol yn god rhedeg - ar gyfer y cerdyn a'r terfynellau ar yr un pryd - mae Multefile bron â gwneud i ffwrdd â'r broses faith a llafurus o ddatblygu technegol.

Gall perchnogion busnes greu a chynnal eu cymwysiadau cerdyn call eu hunain, a chymwysiadau sy'n gysylltiedig â cherdyn call, mor rhwydd â llunio taenlen. Mae hynny'n gostwng costau datblygu a chostau cynnal a chadw parhaus yn sylfaenol.

Mae Multefile yn ei gwneud yn bosibl datblygu cymwysiadau'n gyflym drwy ategu ystod helaeth o'r nodweddion a'r swyddogaethau sy'n arfer bod yn ofynnol gan amrywiaeth eang o gymwysiadau, o'r symlaf i'r mwyaf cymhleth - o Gludiant i Daliadau, o Gardiau Adnabod i Gardiau Iechyd, neu unrhyw gyfuniad ohonynt.

Beth am weld drosoch eich hun pa mor effeithiol yw Multefile? Rydym bellach yn gallu darparu pecynnau arfarnu Multefile. Cysylltwch ag enquiries@ecebs.com

 

 

 Related Links

 Introducing Multefile
 Multefile Brochure
textlinks + search
copyright